featured photo

Shwmae! Fy enw i yw Dione a dwi ar hyn o bryd yn gwneud fy noethuriaeth o Met Caerdydd. Dwi’n teimlo’n ffodus iawn am fod wedi ennill ysgoloriaeth ymchwil o’r Coleg Cymraeg am gyfnod o dair blynedd. Pan ddechreuais y ddoethuriaeth nol ym mis Hydref, dim ond tri mis ar ôl graddio o fy ngradd gyntaf, roeddwn yn hollol gyffrous am ddychwelyd i Brifysgol Met Caerdydd!

Roeddwn yn gyfarwydd iawn gyda’r sefydliad a hefyd gyda rhai o aelodau fy nhîm ymchwil, felly roeddwn yn hyderus byswn i’n setlo i mewn yn dda. Ces i fy mhenodi desg lan yn swyddfa’r ‘tŷ ymchwil’ ble mae’r myfyrwyr doethurol eraill yn gweithio, a chymerais y cyfle i rwydweithio gyda nhw o’r eiliad cyntaf, yn ogystal ag ymuno â grwpiau ymchwil yn y brifysgol sy’n helpu’n fawr gyda fy natblygiad academaidd, yn enwedig wedi i mi neidio o astudiaethau lefel chwech i lefel wyth. 

Fy nesg newydd!

Treuliais y misoedd cyntaf yn dod i adnabod fy nhîm ymchwil, sydd mor wybodus a chefnogol, ac yn darllen i fireinio’r prosiect ymchwil, gan addasu’r nodau ac amcanion wrth i fy nealltwriaeth o’r maes ymchwil cynyddu. Llwyddais i basio’r garreg filltir hollbwysig o sicrhau cymeradwyaeth moesegol ar gyfer y prosiect ac felly ym Mis Mawrth, dechreuais fy astudiaeth beilot mewn ysgol… wedyn daeth COFID-19! Ar ôl dim ond tri diwrnod byr, cafodd ysgolion eu gorfodi i gau. Ar ôl yr holl ymdrech o barchu terfynau amser hunan-osodedig a gweithio’n hynod o galed i sicrhau fod y prosiect yn symud yn ei blaen, roeddwn nawr yn gorfod stopio pob dim. Teimlais fod popeth roeddwn wedi paratoi ar gyfer wedi cael ei gymryd i ffwrdd!

Gweithio o adref

Cymerais gwpl o ddiwrnodau i adlewyrchu ar bob dim roeddwn wedi cyflawni ers dechrau’r PhD. Weithiau, rydym mor awyddus i gadw’r olwynion yn troi, rydym yn anghofio am y pellter rydym wedi teithio. Ar ol derbyn fod pawb yn yr un sefyllfa, cytunais gyda fy nhim ymchwil ar dasgau byswn yn medru gwneud yn y cyfamser, nes bod ysgolion ar agor a gallaf barhau yn casglu data. Rydym wedi dechrau cyfathrebu dros Microsoft Teams sy’n caniatau i ni drafod dros alwad fideo, rhannu ffeiliau a hefyd sgwrsio dros yr arwedd ‘chat.’ Nid yw’r cyfarfodydd rhithiol mor wahanol a chyfarfodydd wyneb i wyneb i ddweud y gwir!

Rwyf yn lwcus i fod yn byw gyda theulu cefnogol sydd wedi mynd i’r ymdrech o greu ardal gwaith i mi allu barhau gweithio o’r tŷ. Yn y dechrau, ceisiais weithio o’r soffa, bwrdd cinio neu o fy ngwely ond nad oeddwn yn medru canolbwyntio am gyfnodau hir iawn. Pob bore nawr,  dwi’n trio dilyn y drefn o ddeffro, yfed paned o de o flaen y newyddion, cael cawod a gwisgo, cymryd y ci am dro, bwyta brecwast ac yna yn mynd i fy nesg am gwpl o oriau i weithio.

Mae’r tywydd heulog wedi bod o gymorth yn y cyfnod yma!

Fel gweithwyr allweddol, mae fy rhieni dal yn mynychu gwaith ac felly dim ond fy mrawd iau sydd yma yn ystod y diwrnod, sy’n golygu bod llai o wrthdyniadau yn rhwystro fi rhag canolbwyntio! Nid yw pob diwrnod mor gynhyrchiol ond wrth gael cynllun boreol yn ei le, teimlaf fy mod yn barod i gymryd y diwrnod ymlaen!

Rydw i wedi bod yn beicio ac yn cerdded yn aml, gan ymfalchïo yn yr ardal dwi’n byw yn fwy nag erioed! Mae’r tywydd braf wedi helpu’n fawr gyda’r eisiau i fynd tu fas a gwneud gweithgarwch corfforol cyson, sydd mor bwysig ar gyfer ein lles meddyliol yn ogystal â chorfforol. Rydw i hefyd wedi mwynhau creu a chymryd rhan mewn cwisiau wythnosol gyda grwpiau o ffrindiau a theulu, gan gynnwys fy nghyd-AChAGwyr. Wedi i ni raddio yn yr haf, nid ydym yn gweld ein gilydd yn aml nawr, ond mae bod mewn ‘lockdown’ wedi creu cyfleoedd i ni ddal lan yn fwy!

Edrychaf ymlaen at ddychwelyd i rwtin arferol, at ymweld â teulu a ffrindiau mewn person, at teithio i wahanol lefydd ac at parhau yn casglu data ar gyfer y doethuriaeth, ond am nawr, rwyf yn ddiolchgar am fy iechyd ac am y dulliau technolegol arbennig o gyfathrebu sydd gennyf i gadw mewn cysylltiad gyda fy nheulu a ffrindiau.