Skip to content

Manteisio ar bob cyfle gyda fy nghwrs MSc Darlledu Chwaraeon

rhodri featured
rhodri featured

Helo! Fy enw i yw Rhodri ac eleni dwi wedi bod yn astudio ar y cwrs Meistr Darlledu Chwaraeon yma ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Cyn hynny, roeddwn i’n astudio ar y cwrs israddedig Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Dwyieitheg ym Met Caerdydd, felly roedd hi’n braf i ddychwelyd nôl i’r brifysgol!

Ers dechrau’r cwrs dwi wedi cael nifer o brofiadau grêt i’m mharatoi ar gyfer gyrfa mewn darlledu chwaraeon. Yn ddiweddar cawsom ymweliad gan Brifysgol Ball State ag oedd yn ymweld â ni fel rhan o’r cwrs! Felly beth yn union oedd y prosiect? Dewisodd myfyrwyr Ball State, gan weithio gyda ni, 6 stori chwaraeon Met Caerdydd i’w hadrodd. Cawsom gyfarfodydd rhithwir yn ystod Ionawr a Chwefror i drafod a chynllunio syniadau.

, Manteisio ar bob cyfle gyda fy nghwrs MSc Darlledu Chwaraeon, CARDIFF MET BLOG
Cyfarfod rhithwir i drafod syniadau!

Roedd safon y cynnwys a’r sgiliau oedd gan fyfyrwyr Ball State yn glir i’w weld o’r cychwyn. Dechreuodd y prosiect ym mis Rhagfyr i ni fyfyrwyr wrth i ni gael galwadau Skype rhwng yr holl fyfyrwyr a staff o’r ddau gwrs, sef Darlledu Chwaraeon ar raglen Sports Link o Ball State. Roedd y galwadau yn siawns i’r ddau gwrs dod i nabod ei’n gilydd yn ogystal â chyfle i ni gyflwyno gwahanol athletwyr Met Caerdydd a oedd â storiâu werth ei hadrodd.

, Manteisio ar bob cyfle gyda fy nghwrs MSc Darlledu Chwaraeon, CARDIFF MET BLOG
Cawsom gyfle i fynd am dro i Ben Y Fan!

Roedd yr Americanwyr yn chwilio am 6 athletwr gwahanol i fod yn rhan o raglen ddogfen. Roeddent am i’r athletwyr hyn fod o wahanol chwaraeon fel pêl-droed, rygbi, athletau, criced a phêl-rwyd. Ein gwaith ar ôl iddynt benderfynu ar y 6 athletwyr oedd trefnu galwadau rhwng yr athletwyr a’r criw Ball State, yn ogystal â chasglu unrhyw wybodaeth yr oedd eu hangen am ein hathletwyr, â dod o hyd i athletwyr a hyfforddwyr i’w gyfweld, ac edrych am leoliadau ffilmio o amgylch Caerdydd.

Pryd gyrhaeddon nhw, rhannwyd y myfyrwyr o’r ddwy Brifysgol mewn i 6 grŵp ac roedd pob grŵp yn gyfrifol am helpu gydag un stori benodol. Roeddwn i’n gyfrifol am stori Jenny Nesbit, athletwr Rhyngwladol i Gymru a Phrydain Fawr, a hefyd aelod o’n cwrs ym Met Caerdydd.

Roeddwn wedi mynychu sesiwn ffilmio yng nghastell Caerdydd lle cafodd criw Ball State fideos o Jenny yn rhedeg o amgylch y castell a’r parc, yn ogystal â bod yn bresennol ar gyfer ei chyfweliad yn ôl ar gampws. Roedd hyn yn brofiad gwych i mi weld faint o ffilmio sy’n mynd i mewn i raglen ddogfen a’r gwahaniaethau rhwng cynnal cyfweliadau yn America i gymharu gyda ni yng Nghymru.

, Manteisio ar bob cyfle gyda fy nghwrs MSc Darlledu Chwaraeon, CARDIFF MET BLOG
Mae wedi bod yn brofiad anhygoel cael y cyfle I gydweithio gyda Brifysgol Ball State!

Tra roeddent yma, cawsom ddosbarth meistr adrodd straeon anhygoel gan eu cyfarwyddwr rhaglen nhw, sef Chris Taylor. Newidiodd y ddarlith hon y ffordd rwy’n meddwl o ran adrodd stori ar y sgrin ac mae wedi caniatáu i mi feddwl yn fwy creadigol a gwella fy nealltwriaeth o sut i greu cynnwys fideo deniadol.

Yn ystod ei’n hamser gyda’n gilydd fe dreulion ni lawer o amser yn archwilio Caerdydd a’r ardal o gwmpas, gyda theithiau i St Fagan, Stadiwm Principality, maes Criced Gerddi Sophia yn ogystal â gwylio gemau Dinas Caerdydd, Cardiff Devils a Celtic Dragons. Fe aethon ni hefyd ar daith i ddringo Pen Y Fan lle’r oedd yr Americanwyr yn mwynhau’r golygfeydd o’r mynyddoedd a’r eira ar y brig! Wnes i fideo o’r daith hon gallwch ei wylio ar waelod y dudalen!

Yr uchafbwynt i’r Americanwyr oedd noson yn Bingo Lingo ym Mae Caerdydd, doedden nhw ddim yn gallu credu ein bod yn chwarae bingo fel na! Fe aethon ni â nhw allan o amgylch nifer o dafarndai Wetherspoon’s yng Nghaerdydd, yn cynnwys gwylio gêm y 6 gwlad rhwng Cymru a Lloegr yn dafarn Tywysog Cymru. Ond y lleiaf sy’n cael ei dweud am y gêm honna yw’r gorau rwy’n credu….

Roedd y profiad o weithio gyda myfyrwyr Prifysgol Ball State yn anhygoel, wrth weld y gwahanol ddiwylliannau yn dod at ei gilydd ac yn cydweithio’n dda. Rwy’n teimlo fel rydym ni gyd wedi gwneud ffrindiau am oes ac rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â nhw eto. Mae llawer ohonom ni o Met Caerdydd wedi gwneud cynlluniau i fynd draw i Indiana a gweld y myfyrwyr Sports Link ar waith a chwrdd â phawb o’r daith!

Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniad y prosiect trawsatlantig, rwyf wedi gweld rhai clipiau o bob rhaglen ddogfen wahanol o’r prosiect a dwi methu aros i weld y fideo terfynol ar y 30ain o Fehefin.