Skip to content

Sut mae astudio Animeiddio ym Met Caerdydd yn fy mharatoi ar gyfer y gweithle

featured photo callum
featured photo callum

Mae edrych yn ôl ar y tair mlynedd diwethaf o astudio yma ym Met Caerdydd wedi gwneud i mi sylweddoli faint o brofiadau da dwi wedi cael ac sut mae’r cwrs wedi bod yn baratoad gwych ar gyfer dyfodol yn y diwydiant animeiddio.

Roedd fy mlwyddyn gyntaf yma yn effeithiol i helpu datblygu fy sgiliau fel artist ag animeiddiwr. Cawsom nifer o weithwyr proffesiynol o’r diwydiant yn dod i mewn i ddysgu ni sut i weithio mewn gwahanol brosesau, fel gweithio mewn 3D yn Maya ac gweithio mewn 2D yn Moho.

Roedd y sesiwn mewn Moho wedi profi i fod yn ddefnyddiol iawn bellach lawr y lein, oherwydd yn fy ail flwyddyn cawsom y cyfle i weithio ar y prosiect byw Caru Canu, sef sioe i blant wedi’i animeiddio sydd hefo can wahanol i blant ddysgu mewn pob pennod. Yn ein hamser yn gweithio ar y sioe, cawsom ni’r cyfle i gymryd rhan mewn cyfarfodydd cynhyrchiad gyda’r cynhyrchwyr, Siwan Jobbins o Gynyrchiadau Twt a Picl Animation, pwy oedd yn helpu animeiddio’r penodau.

Roedd bod yn rhan o’r cyfarfodydd yma yn rhoi golwg da i mi o sut mae sioe wedi’i animeiddio yn cael ei chynhyrchu. Yn y cyfamser, cefais y cyfle i olygu byrddau stori i mewn i fersiwn animeiddio, hefyd y cyfle i greu a rigio cymeriadau, rhoi’r cymeriadau yn ei lefydd yn barod am yr animeiddio, a hyd yn oed wedi animeiddio cymeriad am bennod lawn, y bennod Adeiladu Tŷ Bach, ynghyd rhannau eraill mewn penodau eraill.

, Sut mae astudio Animeiddio ym Met Caerdydd yn fy mharatoi ar gyfer y gweithle, CARDIFF MET BLOG
Creu ident ar gyfer Gwyl Animeiddio Caerdydd

Nawr fy mod i yn fy trydedd flwyddyn, rwyf wedi bod yn gweithio ar fy ffilm orffenedig am ychydig o amser hyd yn hyn. Rwyf wedi mynd trwy’r broses bwrdd stori, ac rydw i’n bell i mewn i’r broses animeiddio ar y funud, wedi cael tiwtorialau grŵp yn wythnosol i helpu gwthio syniadau fy hun a syniadau pobl eraill ar y cwrs.

https://www.youtube.com/watch?v=GXXYF-Wum4I&feature=emb_title
Enghreifftiau o fy ngwaith

Yn fwyaf diweddar cefais y cyfle i greu ident fel rhan o gystadleuaeth i’r Cardiff Animation Festival 2020. Cafodd fy ident ei ddewis i gael ei ddangos o flaen un o’r rhaglenni oedd am chware yn yr ŵyl. Ar y funud mae’r ŵyl wedi gorfod cael ei gohirio oherwydd y sefyllfa COVID-19, ond rwyf yn dal yn ddiolchgar iawn i wedi cael y cyfle i greu’r ident ac iddo gael ei ddewis am y sioe.

Pethau defnyddiol arall o fod ar gwrs yw’r nifer o siaradwyr rydym wedi cael o ddiwydiant animeiddio. Yn fy amser ar y cwrs, rydym wedi cael siarad hefo MD Cloth Cat Animation Jon Rennie, ynghyd a dau ymweliad i’r stiwdio yn Cloth Cat, rydym wedi cael sesiwn lluniadu byw gyda Joanna Quinn – a hefyd wedi cael ymweld â’i stiwdio yn fy mlwyddyn gyntaf – a’r cyfle i weithio gydag ac ymweld â Picl Animation. Rydym hefyd wedi gael y pleser o gael siaradwyr eraill draw, fel Barry Purves, Helen Brunsdon a mwy.

https://www.youtube.com/watch?time_continue=13&v=G99IrA_zKUs&feature=emb_title
Fy Ident ar gyfer y Gwyl Animeiddio

Mae hyn i gyd wedi helpu paratoi fi a wedi siapio fi i fewn i animeiddiwr fwy galluog ac yn barod am bywyd yn y diwydiant. Wedi cael credyd ar sioe wedi ei animeiddio sydd wedi bod ar deledu, gweithio gydag animeiddwyr proffesiynol a chynhyrchwyr, a dysgu gan yr holl bobl sydd wedi dod i mewn i roi amser i siarad gyda ni, dwi’n sylwi bod rwyf wedi cael lot o brofiadau defnyddiol yn fy amser yma yn astudio yn y Met Caerdydd, ac rwyf yn edrych ymlaen at weld lle mae’r profiadau yma yn gallu mynd a fi.